Gwedd Gyflwyno

Pethau Bychain

Gwlad fach yw Cymru – a chanddi galon fawr. Ac weithiau mae’n braf cael dathlu’r pethau hynny sy’n gwneud Cymru yn wlad mor arbennig, yn wlad wahanol i wledydd eraill. A dyna mae’r cerddor Mei Gwynedd yn ei wneud yng ngeiriau’r gân hon, cân a gyfansoddwyd wrth iddo deithio o amgylch ysgolion Cymru. Recordiwyd y gân mewn cyfres o weithdai gyda phobl ifanc yn chwarae'r darnau offerynnol, gan gynnwys drymiau a bâs yn Llangefni, gitarau yn Llanelli a chôr yng Nghrymych. Mae’r teitl wedi ei ysbrydoli gan eiriau olaf Dewi Sant: ‘Gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i’.