Gwedd Gyflwyno

Ar y Ffôn

Mae’r ffôn yn rhan ganolog o’n bywydau ni i gyd. Byddai rhai’n dweud mai’r ffôn yw bywyd rhai ohonom! Ond peth cymharol ddiweddar yw hyn. Roedd adeg pan oedd y ffôn yn rhywbeth i’w ddefnyddio’n achlysurol neu mewn argyfwng . Ac arwydd o hynny oedd y blychau ffôn cyhoeddus a safai hwnt ac yma, ac sydd i’w gweld o hyd mewn rhai mannau ledled y wlad. Ond fel mae’r gerdd hon gan Iwan Llwyd yn dangos, roedden nhw hefyd yn cael eu defnyddio fel mannau cyfarfod gan bobl ifainc slawer dydd.