Ar y Ffôn

Ar y Ffôn - Iwan Llwyd

Maen nhw’n tynnu’r hen focsys ffôn i lawr,

un wrth un,

y cromfachau cochion

oedd ymhob pen y pentref:

 

er mai dim ond lle i un oedd ynddyn nhw,

fel bocs ffôn Dr Who

roedd yn rhyfedd faint o hogiabechgyn

allai glustfeinioclustfeinio = gwrando’n ofalus iawn

 

a faint o genodmerched allai hel yno

i gario clecs

a chwythu cusanau i lawr y lein:

cynnig cysgod mewn cawod law

 

a chornel ar noson ddileuad,

ac ar glawr melyn y llyfr

roedd cyfle i dorri enw

a chariad cyntaf:

 

erbyn hyn mae gan bawb ei ffôn

pob un a’i felodi ei hun,

a dim sôn am harmoni –

ac ar drên neu fws dyna gantatacantata = ...

 

fel Tŵr Babel... o leisiau,

ac mae’r pentref yn ddigromfachau

yn graddol fynd yn un â’r nesa’,

a’r blychau cochion mewn amgueddfa

 

a’r genod a’r hogia yn tyfu’n hŷn,

heb le i rannu cyfrinach,

pob un wrtho’i hun,

yn pwyso ar ei ffôn.

 

(allan o Pac o Feirdd, Gwasg Carreg Gwalch, 2002)

Mae’r ffôn yn rhan ganolog o’n bywydau ni i gyd. Byddai rhai’n dweud mai’r ffôn yw bywyd rhai ohonom! Ond peth cymharol ddiweddar yw hyn. Roedd adeg pan oedd y ffôn yn rhywbeth i’w ddefnyddio’n achlysurol neu mewn argyfwng . Ac arwydd o hynny oedd y blychau ffôn cyhoeddus a safai hwnt ac yma, ac sydd i’w gweld o hyd mewn rhai mannau ledled y wlad. Ond fel mae’r gerdd hon gan Iwan Llwyd yn dangos, roedden nhw hefyd yn cael eu defnyddio fel mannau cyfarfod gan bobl ifainc slawer dydd.

Iwan Llwyd (1957 - 2010)

 

  • Prifardd a Cherddor
  • Cafodd ei eni yn Ngharno, Powys a’i fagu yn Nyffryn Conwy a Bangor.
  • Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni yn 1990 am ei gasgliad ‘Gwreichion’.
  • Cyhoeddodd nifer o gyfrolau o farddoniaeth gan gynnwys Be 'di Blwyddyn Rhwng Ffrindiau yn 2003 a Hanner Cant yn 2007.
  • Roedd Iwan Llwyd yn hoff iawn o berfformio ei gerddi a’i farddoniaeth i gynulleidfaoedd byw.

 

llun iwan web 3

 

Gweithgaredd 1

Atebwch y cwestiynau canlynol:

Gweithgaredd 2

Anagramau o ba eiriau yn y gerdd yw’r canlynol?

Gweithgaredd 3

Cysylltwch yr ymadroddion gyda'r nodweddion arddull cywir.