Brys

Brys - Ken Griffiths

RownRoeddwn  am gael gorffen ysgol

Ac am gael gyrru car,

A phrofi’r cariad cyntaf

A phrynu peint o’r bar,

Hyn oedd yn fwrlwm yn fy ngwaed

A’r cloc o hyd yn llusgo’i draed.

 

Ac wedi blasu’r cyfan

Wrth fynedmyned = mynd ar fy hynt

Er ceisio eu harafu

Mae’r dyddiau’n mynd yn gynt,

Mi lusgaf i fy ngwely toccyn bo hir

Heb awydd mwy i weindio’r cloc.

 

(allan o Y Grefft o Dan-y-groes, gol. Idris Reynolds, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)

Ydych chi’n edrych ymlaen at adael ysgol, a chael gwneud y pethau y mae oedolion yn cael eu gwneud? Dyna roedd Ken Griffiths yn dyheu amdano pan oedd yn fachgen ysgol, ac ym mhennill cynta’r gerdd hon mae’n cofio mor awyddus ydoedd i droi’n oedolyn. Yn yr ail bennill, ag yntau’n hen ŵr, mae ei agwedd at amser wedi newid yn llwyr.

Gweithgaredd 1

Beth oedd y bardd yn awyddus i’w wneud pan fyddai’n hŷn?

Gweithgaredd 2

Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.