Mae’r We yn gwybod y cyfan, mae’n ymddangos. A’r cyfan sydd ei angen i gael mynediad i’w holl wybodaeth yw clic llygoden. Cawn fynd i bobman ar wyneb daear wedyn heb orfod symud o’r unfan. Mwy na hynny, drwy deipio a chlicio ar ‘Google Mars’, cawn fynd i’r gofod pell a rhyfeddu at olygfeydd y blaned Mawrth, y blaned goch sydd wedi ysbrydoli cymaint o straeon dychmygus am aliwns yn y gorffennol. Yn y gerdd hon, mae Hywel Griffiths yn ein hannog ni i glicio ac i grwydro hyd nes ein bod ni’n gweld holl ffurfiau daearyddol y blaned honno, ffurfiau tebyg iawn i rai ein daear ni.