Cadno Coch - Eurig Salisbury
Yn ysgafn,
Fel pe bai’r llawr yn llosgi
Ei draed,
Dacw’r cadnodacw = dyna, 'co, gwelwch fan yna coch
yn loncianrhedeg yn araf ond yn gyson o lwynplanhigyn sy'n llai na choeden i lwyn.
Mae'n cadw ei bwyllMae’n parhau i fod yn wyliadwrus ,
Yn codi ei ben
Ac oediaros am ychydig .
Clywodd rywun
Neu rywbeth
Lle na chlywais i
Ddim.
Y cadno coch
A’i draed yn ddu
Yn loncian ac yn loncian
Cyn i’r tir ei lyncu.
(Allan o Sgrwtsh, Eurig Salisbury, Gomer, 2011)
Cadno Coch
Eurig Salisbury yn darllen ei gerdd, 'Cadno Coch':
Mae gan y cadno (neu’r llwynog) enw am fod yn greadur cyfrwys. Ond yn y gerdd hon, mae Eurig Salisbury yn sylwi ar symudiadau’r cadno wrth iddo redeg a chysgodi am yn ail. Mae’r bardd hefyd yn sylwi ar y modd y mae’r cadno’n syhwyro beth sydd o’i gwmpas, cyn diflannu’r un mor sydyn ag yr ymddangosodd yn y lle cyntaf.
Cadno Coch - eglurhad y bardd
Beth sydd gan y bardd, Eurig Salisbury, i'w ddweud am ei gerdd?
Eurig Salisbury
Dewch i adnabod y bardd:
Gweithgaredd 1
Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.
Gweithgaredd 2
Uwcholeuwch yr ymadroddion neu'r llinellau unigol sy'n defnyddio nodwedd cyflythrennu yn y gerdd.
Gweithgaredd 3
Yn y geiriau ‘ysgafn’ a ‘llosgi’, mae’r cytseiniaid ‘sg’ a ‘sg’ yn ymddangos yn yr un drefn yn y ddau air (‘ysgafn’/‘llosgi’).
Uwcholeuwch y cytseiniaid sy’n ymddangos yn yr un drefn yn y parau canlynol o eiriau neu ymadroddion.
TASG 1
Gyda phartner, gwnewch ddwy restr sy’n disgrifio’r cadno yn y gerdd:
a) un yn rhestru’r ffeithiau amdano
b) un yn rhestru’r hyn mae’r bardd yn dychmygu sy’n wir amdano.
- PDF (.pdf): Cadno-Coch-Tasg-1.pdf
TASG 2
Mae’r bardd yn defnyddio’r gair ‘loncian’ i ddisgrifio’r modd y mae’r cadno’n symud.
a) Chwiliwch am glip ar y we o gadno’n rhedeg.
b) Ydych chi’n credu bod ‘loncian’ yn air addas neu’n anaddas i ddisgrifio symudiad y cadno? Pam?
TASG 3
Mae sawl bardd Cymraeg wedi ysgrifennu cerddi am gadnoid (neu lwynogod).
Ysgrifennodd bardd enwog iawn o’r enw R. Williams Parry gerdd o’r enw ‘Y Llwynog’.
Ceisiwch ddod o hyd i gopi o’r gerdd a dysgwch bedwar gair cyntaf a llinell olaf y gerdd honno ar eich cof.
TASG 4
Mae hen draddodiad o hela cadnoid yng Nghymru. A ydych chi o blaid neu yn erbyn y traddodiad hwnnw?
Ysgrifennwch erthygl i gylchgrawn yr ysgol yn cyflwyno eich dadl dros neu yn erbyn hela cadnoid.
- PDF (.pdf): Cadno-Coch-Tasg-4.pdf
Taflenni holl dasgau Cadno Coch:
- PDF (.pdf): Tasgau-Cadno-Coch.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Cadno-Coch.docx
- PDF (.pdf): Taflenni-Gwaith-Tasgau-Cadno-Coch.pdf