Y Gerdd Werdd - Gwyneth Glyn
Sgen tiA oes gennyt ti botel? Sgen ti bapur?
Sgen ti ganiau? Sgen ti dun?
Sgen ti amser i ailfeddwl
cyn eu taflu nhw i’r bin?
Casgla’r rhain fel trugareddaumân bethau ,
adeilada bentwr mawr,
yna tro nhw’n drysor newydd
fel mae’r machlud yn troi’n wawr.
Bwyda di y blwch ailgylchu,
llanwa di y crochanllestr crwn ar gyfer berwi pethau hud.
Gwylia hen bapurau echdoey diwrnod cyn ddoe
yn troi’n gylchgrawn newydd, drud.
Tro dy hun yn degan digri,
tro focs sgwâr yn botel gron.
Tro hen eiriau rhwng dy ddwylo
i wneud cerddi newydd sbon.
(allan o Cerddi’n Cerdded, Gwyneth Glyn, Gomer, 2008)
Mae pawb bellach yn gwybod mor bwysig yw ailgylchu. Ac mae’r gerdd hon gan Gwyneth Glyn (sydd yn gantores enwog yn ogystal â bod yn fardd) yn ein hannog ni i fynd ati’n ymarferol i ailgylchu, ac i ystyried ailgychu nid yn unig fel cymwynas amgylcheddol ond hefyd fel gweithred greadigol.
Gwyneth Glyn
- Cantores, llenor a bardd o Eifionydd.
- Mae hi wedi ysgrifennu nifer o lyfrau i blant a phobl ifanc.
- Mae hi hefyd wedi ysgrifennu sgriptiau ar gyfer rhaglenni teledu fel Rownd a Rownd a Pobol y Cwm.
- Mae hi’n canu a pherfformio gyda’r gitâr.
Gweithgaredd 1
Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.
Gweithgaredd 2
Ym mhenillion 2 a 3, uwcholeuwch y berfau sy’n dangos bod y bardd yn siarad yn uniongyrchol â’r darllenydd.
Gweithgaredd 3
Cysylltwch yr ymadroddion gyda'r nodwedd arddull cywir.
TASG 1
Yn nwy linell ola’r gerdd, mae Gwyneth Glyn yn annog y darllenydd i droi ‘hen eiriau’ yn ‘gerddi newydd sbon’.
Ym mha ffyrdd, dybiwch chi, y mae ysgrifennu cerddi yn debyg i’r broses o ailgylchu?
TASG 2
a) Beth yw eich hoff ymadrodd, hoff linell neu hoff syniad yn y gerdd?
b) Esboniwch pam eich bod yn ystyried yr ymadrodd, y llinell neu’r syniad yn un arbennig o effeithiol?
TASG 3
Dyluniwch boster sy’n annog eich cyd-ddisgyblion i ailgylchu, gan ddefnyddio dyfyniadau byrion o’r gerdd i danlinellu’r neges.
TASG 4
Mewn grwpiau, paratowch berfformiad o’r gerdd.
Ystyriwch sut y gellwch chi ddod â’r geiriau’n fyw i’r gynulleidfa, a gwneud y neges yn un gofiadwy. (A oes modd, o bosib, troi’r gerdd yn gân neu’n rap?)
Taflen holl dasgau Y Gerdd Werdd:
- PDF (.pdf): Tasgau-y-Gerdd-Werdd.pdf
- Word (.docx): Tasgau-y-Gerdd-Werdd.docx