Dic Jones (1934-2009)

Cafodd Richard Lewis Jones (Dic Jones) ei eni yn 1934 yn Nhre'r Ddôl yng ngogledd Ceredigion, ond fel Dic Yr Hendre y daeth i'w adnabod gan mai ar fferm Yr Hendre ym Mlaenannerch ger Aberteifi y bu'n byw mwyafrif ei oes.
Roedd Dic Jones yn un o feirdd Cymraeg gorau'r ugeinfed ganrif ac fe gyhoeddodd 4 cyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gallu barddoni'n arbennig am y dwys a'r digrif. Roedd yn fardd ei filltir sgwâr ond hefyd yn fardd cenedlaethol.
Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd 5 gwaith yn olynol yn y 1950au, gan ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1966 gydag awdl 'Y Cynhaeaf'.
Ffermwr oedd Dic, ac roedd amaethyddiaeth a byd natur yn ysbrydoli ei farddoniaeth. Ef oedd y ffermwr cyntaf erioed i ddod yn Archdderwydd pan gafodd ei benodi yn 2008. Bu farw wedi blwyddyn yn unig fel Archdderwydd Cymru.