TASG 1
‘Ddoe’n graig a heddiw’n gragen’, meddai’r bardd am ei daid, gan ddefnyddio ymadrodd sy’n drosiad ac yn wrthgyferbyniad. Roedd ei daid unwaith mor gryf a chadarn â’r graig, ond erbyn hyn, mae mor wag a bregus â chragen.
a) Ceisiwch feddwl am barau eraill o eiriau y byddai’r bardd wedi gallu eu defnyddio yn lle’r pâr ‘craig’ a ‘cragen’. Bydd angen i’r parau hyn fod yn eiriau gwrthgyferbyniol ac, o bosib, hefyd yn drosiadau.
e.e.
- ddoe’n eryr a heddiw’n ddryw
- ddoe’n gawr a heddiw’n gorrach
- ddoe’n ______ a heddiw’n _________
- ddoe’n ______ a heddiw’n _________
- ddoe’n ______ a heddiw’n _________
b) Wedi cwblhau gweithagredd (a), rhowch resymau pam y tybiwch chi fod y bardd wedi defnyddio ‘Ddoe’n graig a heddiw’n gragen’ yn hytrach nag unrhyw bâr arall o eiriau gwrthgyferbyniol. Ceisiwch feddwl am y gerdd yn ei chyfanrwydd, am ystyr y geiriau, ac am eu sain nhw hefyd.